Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 28 Medi 2022
Amser:
09.16 -
10.39
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12966
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Russell George AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Gareth Davies AS Sarah Murphy AS Ken Skates AS (yn lle Jack Sargeant AS) Joyce Watson AS |
Tystion: |
Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Lynne Neagle AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Robert Lloyd-Williams (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jack Sargeant AS; dirprwyodd Ken Skates AS ar ei ran.
1.3 Nid oedd unrhyw ddatganiadau.
2 Anghydraddoldebau iechyd meddwl: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a swyddogion Llywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am safbwynt Llywodraeth Cymru ar ymestyn adran 25B Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i leoliadau cleifion mewnol iechyd meddwl.
2.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am ddatblygu a gweithredu'r set data craidd ar iechyd meddwl.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn, ac o eitemau 1, 2 a 3 y cyfarfod ar 6 Hydref 2022.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Anghydraddoldebau iechyd meddwl: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd.